Gallai prosiect ymchwil maes y ‘Steddfod droi’n arfer blynyddol, yn ôl myfyriwr sy’n rhan ohono.

Yn dilyn lansiad eu prosiect yn Eisteddfod Môn y llynedd, eleni eto mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn casglu gwybodaeth o’u stondin ar faes y brifwyl.

Am wythnos gyfan byddan nhw’n croesawu ymwelwyr yno, gyda’r nod o ddarganfod: o le maen nhw wedi teithio, sut y gwnaethon nhw deithio, ac a ydyn nhw’n mwynhau.

Ac yn ôl Math Emyr, myfyriwr busnes o Brifysgol Caerdydd sy’n rhoi help llaw â’r casglu data, mae ‘na awydd i ddal ati â’r prosiect am flynyddoedd i ddod.

“Buaswn i’n meddwl [bod y brifysgol am barhau],” meddai wrth golwg360.

“Gwnaethon nhw hyn llynedd, felly roedden nhw’n edrych ymlaen at wneud hyn eleni eto. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mae’n siŵr.

“Maen nhw wedi cael llawer o ymateb ac mae’r ymateb yn grêt ac mae’r [brifysgol] yn hoffi dod i’r Eisteddfod.”

Pam cynnal y prosiect?

Trwy gasglu’r wybodaeth yma, mae Math Emyr yn dweud eu bod yn helpu’r Eisteddfod i ddatblygu a gwella.

“Bydd yr Eisteddfod yn ei ddefnyddio fel sail, os bydd Eisteddfod yn y brifddinas eto,” meddai. “Byddan nhw hefyd yn ei ddefnyddio i weld os ydy pobol wedi joio.”

“Mae pawb yn joio bod y maes am ddim, yn amlwg. Dw i’n meddwl y byddan nhw’n ei ddefnyddio i gael feel am os ydy pobol wedi’i fwynhau.”

Casgliadau Eisteddfod Môn

O gasglu ymatebion 1,200 o ymwelwyr Eisteddfod Ynys Môn 2017, mi wnaeth Prifysgol Caerdydd ddarganfod bod:

  • 64% wedi bod i’r Eisteddfod Genedlaethol dros 11 o weithiau
  • 42% wedi bod yno am bum diwrnod neu fwy
  • 93% yn fodlon ag ansawdd yr Eisteddfod
  • 89% yn teimlo emosiynau cryf o hapusrwydd