Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru roi bwyd wrth galon eu polisïau.

Daw’r alwad hon wrth i ffigyrau ar gyfer y flwyddyn ddiwetha’ ddangos bod gwledydd Prydain yn cynhyrchu 60% o’u bwydydd eu hun.

Cafodd yr un ffigwr ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn 2016 hefyd, ond mae ystadegau’n dangos bod dirywiad araf wedi bod yn ystod y 30 mlynedd diwetha’.

Er enghraifft, roedd gwledydd Prydain yn cynhyrchu 74% o’u bwydydd eu hun yn 1987, gyda’r ffigwr wedyn wedi cwympo i 68% yn 1997, cyn aros o gwmpas y 60% wedi 2007.

“Pryder mawr”

Mae NFU Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn erbyn y dirywiad hwn, sy’n destun “pryder mawr”, medden nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud bod arolwg gan YouGov yn ddiweddar yn dangos bod 80% o gwsmeriaid Cymru eisiau gweld ffermwyr yn cael mwy o gefnogaeth i gynhyrchu bwyd sy’n ddiogel, o’r safon uchaf, ac sy’n medru cael ei olrhain.

“A Brexit dim ond cwta wyth mis i ffwrdd a chyda’r lansiad yn ddiweddar o’r ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’ gan Lywodraeth Cymru, rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o ansicrwydd sydd hefyd yn adeg o gyfleoedd go iawn,” meddai Llywydd NFU Cymru, John Davies.

“Mae NFU Cymru yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y diwydiant bwyd a diodydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle ar hyn o bryd i roi cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd wrth galon yr agenda wleidyddol.

“Ac mae ffermwyr Cymru a gwledydd Prydain yn barod i wynebu’r her o gynhyrchu bwyd i boblogaeth sydd ar gynnydd.”