Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn tŷ yn Sir Caerffili dros y penwythnos.

Fe gafodd corff David Gaut, 54 oed, ei ddarganfod mewn eiddo yn Nhref Elliot, Tredegar Newydd am oddeutu 3yh ar ddydd Sadwrn (Awst 4).

Mae dau ddyn 23 a 51 oed o Dredegar Newydd, ynghyd â dyn 47 oed o Aberbargoed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o’i lofruddio, ac mae’r tri’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.