Mae angen i’r blaid Geidwadol yng Nghymru ‘ddal i fyny’ gyda datganoli, yn ôl ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

Bydd Suzy Davies, sy’n Aelod Cynulliad dros ranbarth de-orllewin Cymru, yn lansio ei hymgyrch yn swyddogol heddiw (dydd Llun, Awst 6) mewn digwyddiad yng Ngwesty Cae Cwrt ym Mhenybont-ar-Ogwr.

Mae disgwyl iddi ddweud bod angen i’r Ceidwadwyr Cymreig “adnewyddu” eu cyfeiriad os yw am ddisodli’r Blaid Lafur yng Nghymru.

“Dydyn ni ddim yn byw yn y 1970au na’r 1980au,” meddai.

“Mae’n bryd i’r bobol bleidleisio am ddyfodol y maen nhw eisiau, yn hytrach nag edrych tua’r gorffennol.

“Rydym wedi gweld yr awydd hon yn y bleidlais tros Brexit a dw i’n bwriadu sicrhau ein bod ni’n cael Brexit sy’n gweithio i fusnesau Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd.”

Cydweithio ag eraill

Bydd Suzy Davies hefyd yn cyhoeddi ei pharodrwydd i gydweithio â phleidiau eraill yn y Cynulliad ac ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Mae nifer o’n cynghorwyr ledled Cymru yn ymwybodol o’r ffaith bod angen iddyn nhw weithio gydag eraill er mwyn gwella eu cymunedau a bod cydweithio yn gallu dod mewn nifer o wahanol ffyrdd,” meddai.

“Oes, efallai fod angen i ni weithio gydag eraill i ddangos beth y gall llywodraeth sydd ddim yn cael ei harwain gan Lafur yn gallu ei wneud dros Gymru.”

Mae Suzy Davies yn ychwanegu bod ei gobeithion ar gyfer ei phlaid yn mynd ymhellach na chydweithio, wrth iddi nodi y gall arweinydd newydd arwain Cymru at “economi ffyniannus”.

Y ras

Mae Suzy Davies yn cystadlu yn erbyn ei chyd-aelod yn y Cynulliad, Paul Davies, am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Mae’r aelod dros etholaeth Preseli Penfro eisoes wedi lansio ei ymgyrch yr wythnos ddiwetha’, lle nododd fod angen trawsnewid y blaid cyn trawsnewid Cymru.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 6.