Mae mudiad iaith wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r polisi cynllunio yn atal cynghorwyr rhag ystyried effaith y bydd y rhan fwya’ o geisiadau datblygu yn eu cael ar yr iaith.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y canllawiau yn mynd yn groes i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, a oedd yn rhoi ystyriaeth statudol i’r Gymraeg o fewn y gyfundrefn gynllunio.

Yn dilyn cyngor gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis, mae’r cwmni cyfreithiol, Cyfreithwyr JCP, wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn mynnu ei bod yn newid y canllawiau, a hynny gan eu bod yn groes i ddeddf 2015.

Bydd yr her gyfreithiol yn cael ei thrafod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Awst 6), gyda’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar stondin Cymdeithas yr Iaith.

“brwydr anodd”

“Mae’r Gymdeithas yn credu’n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i bob rhan o’n gwlad, nid rhai ardaloedd yn unig,” meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith, cyn y digwyddiad.

“Ers dechrau datganoli, mae pob Llywodraeth, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi pregethu a deddfu er mwyn gwneud hynny’n gwbl glir.

“Ond, pan ddaw hi at ganllawiau cynllunio mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod cydnabod yr hawl i gynghorwyr ystyried effaith iaith pob math o ddatblygiad.

“Er enghraifft, os nad yw ysgol Gymraeg yn rhan o stad newydd o dai yng Nghaerdydd, neu rywle arall yn y de-ddwyrain, mae canllawiau ein Llywodraeth Genedlaethol ni ar hyn o bryd yn atal cynghorwyr rhag ystyried yr effaith niweidiol ar y Gymraeg…

“Fe allai hon fod yn frwydr anodd, ond bydd yn frwydr werth chweil er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith yn ein holl gymunedau.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw’n gwneud sylwadau ar heriau cyfreithiol.