Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn yn Sir Caerffili fel un amheus.

Cafwyd hyd i’r corff mewn fflat yn Nhref Elliot ger Tredegar Newydd am oddeutu 3 o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn (Awst 4).

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.