Mae un o’r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru, Adam Price wedi galw am “Gymru newydd” mewn erthygl yn y Western Mail heddiw (dydd Sadwrn, Awst 4).

Fe fydd Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ynghyd â Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, yn herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Ac mewn erthygl yn y Western Mail heddiw, mae Adam Price wedi gofyn “ble’r ydyn ni’n mynd o’i le?” wrth drafod y gefnogaeth i Blaid Cymru.

Dywed iddo gysylltu â Phrif Weithredwr y blaid, yn ogystal â’r Llywydd Dafydd Iwan yn galw am sefydlu uned ymgyrchoedd a chreu logo newydd i’r blaid i’w gweld hi “drwy lygaid newydd”.

Ychwanega ei fod, yn rhinwedd ei swydd yn Gyfarwyddwr Ymgyrchoedd y Blaid, wedi gwyrdroi plaid “wythdeg oed” fel y byddai’n rhan o Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Adfywiad – ac annibyniaeth?

Wrth ddadlau bod angen “adfywiad” ar y blaid unwaith eto, dywed Adam Price mai’r cam cyntaf yw “gosod nod feiddgar” – nid yn unig i ennill etholiad nesa’r Cynulliad yn 2021, “ond ennill unwaith eto yn 2026”.

Ychwanega: “Fe ddylen ni ddod yn beiriant ymladd etholiadau mwyaf effeithiol gorllewin Ewrop, gan ein troi ni’n blaid lywodraeth naturiol, yn yr un modd ag y mae’r SNP wedi dod, a Fianna Fail wedi dod yn Iwerddon o 1932 ymlaen”.

Ac wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, dywed fod modd ennill annibyniaeth i Gymru “erbyn diwedd y degawd nesaf”.

Ond yn gyntaf, mae’n dadlau fod rhaid sicrhau llwyddiant mewn etholiadau drwy “adnabod y gynulleidfa darged, crisialu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw mewn neges glir, eil hailadrodd drosodd a thro, gorau oll mewn sgyrsiau un-i-un”.

Mae’n awgrymu sefydlu melin drafod a chyfryngau sydd o blaid annibyniaeth, yn ogystal ag ethol dirprwy arweinydd “oddi mewn i’r blaid” tra bod yr arweinydd yn canolbwyntio ar ddod yn blaid lywodraeth.

Mae hefyd yn awgrymu derbyn argymhellion Eurfyl ap Gwilym adeg etholiadau 2011, oedd yn cynnwys creu enw newydd ‘Cymru gyfan’ yn Saesneg. Ond mae’n awgrymu “enw dwyieithog sy’n arwydd ein bod ni’n blaid ar gyfer dyfodol Cymru”.

“Os ydyn ni am i’n pobol ddewis Cymru Newydd, yna efallai ei bod yn bryd, yn llythrennol, ei rhoi ar y papur pleidleisio.”

Pleidleiswyr newydd

Wrth nodi fod rhaid i Blaid Cymru ddod o hyd i bleidleiswyr newydd, dywed fod rhaid edrych y tu hwnt i’r “bleidlais graidd o Gymry sydd i’r chwith o’r canol”.

Ac fe rybuddia y daw siom mewn etholiadau o ganolbwyntio ar “ymgyrchu ar faterion y mae’r dosbarth gwleidyddol yn gofidio amdanyn nhw heb gydio yn nychymyg pobol gyffredin”.

Wrth herio pleidleiswyr, dyweda fod angen “creu poblyddiaeth Gymreig radical sy’n troi’r hen stori Gymreig – gwlad wedi’i cham-drin, pobol wedi’u siomi – yn stori Gymreig newydd am optimistiaeth a gobaith”. Trwy wneud hyn, meddai, y bu bron i Blaid Cymru gipio sedd Blaenau Gwent yn 2016.

‘Gwrando ac nid pregethu’

Ac wrth geisio dod o hyd i bleidleiswyr newydd, dywed Adam Price fod rhaid “gwrando ac nid pregethu” a “cheisio darganfod tir cyffredin o safbwynt ein golwg ar Gymru”.

Dywed hefyd fod angen siarad â deg gwaith yn fwy o bleidleiswyr, a darganfod y rhai hynny nad ydyn nhw’n bleidleiswyr ond y mae modd eu “darbwyllo” i bleidleisio dros y Blaid, a “theilwra” neges y Blaid ar eu cyfer nhw.

Wyneb yn wyneb, meddai, yw’r ffordd orau o sicrhau cefnogaeth ac nid ar gyfryngau cymdeithasol “i adeiladu gobaith yn hytrach na bwydo dicter”.

Leanne Wood

Wrth gyfeirio at ymgyrch Leanne Wood i ddod yn arweinydd yn 2012, dywed Adam Price fod ganddi “syniadau cywir”, sef hybu pencampwyr cymunedol ac “annibyniaeth go iawn”. Ond ychwanega na chafodd y negeseuon hynny eu gwireddu.

Er mwyn osgoi ailadrodd y camgymeriadau, meddai, fe fyddai’n creu Sefydliad Cenedlaethol tros Drefnu – Trefnewydd – i gynnal digwyddiadau yn seiliedig ar ymgyrchoedd cymunedol, sef y dull Americanaidd o weithredu.