Mae manylion dathliad ar gyfer enillydd ras feics Tour de France, Geraint Thomas wedi cael eu datgelu.

Fe fydd y dathliad nos Iau yn dechrau yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd am oddeutu 4 o’r gloch, cyn symud ymlaen i’r castell erbyn 5 o’r gloch.

Fe fydd Geraint Thomas yn cael ei longyfarch yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

Fe fydd peloton o feicwyr ifainc yn ymuno â’r pencampwr ar hyd Heol Eglwys Fair, cyn annerch y dorf ger y castell.