Bydd £6.8m yn cael ei fuddsoddi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid hwn o arian y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio i gryfhau darpariaeth y bwrdd iechyd, gan ganolbwyntio ar ofal sydd heb ei drefnu a gofal sydd wedi’i gynllunio.
Mae’r arian hefyd ar gael i ysgogi gwelliannau pellach i wasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar draws y tri ysbyty yn y gogledd.
“Gwelliannau sylweddol”
Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn yr ymrwymiad a wnaeth i’r bwrdd iechyd ym mis Mai, sef “darparu cymorth mwy dwys”.
“Bydd [y cyllid] yn cael ei ddefnyddio i sefydlu trefniadau llywodraeth ac atebolrwydd cadarnach yn y Bwrdd iechyd, ac i wthio am welliannau ariannol,” meddai.
“Rwy’n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol i gleifion o ganlyniad, yn arbennig mewn gofal wedi’i gynllunio a gofal heb ei drefnu ar draws y gogledd.