Mae cwmni dadansoddi data, sydd wedi derbyn bron i filiwn o bunnoedd mewn arian cyhoeddus, yn cau swyddfa yng Nghaerdydd.

Mae Cyllid Cymru, sydd dan yr enw Banc Datblygu Cymru erbyn hyn, wedi rhoi dros dri chwarter miliwn i Blurrt – £770,000 yn benodol.

Mae’r banc, sy’n fenthyciwr i fusnesau ledled y wlad, yn gwmni hyd braich i Lywodraeth Cymru ac mae’n defnyddio cyfuniad o arian cyhoeddus ac arian preifat.

Ac mae adain fasnachol S4C, sydd eisoes wedi colli £3m wedi i Loteri Cymru fynd i’r wal, wedi rhoi cyfanswm o £227,000 i’r busnes sy’n dadansoddi data o’r cyfryngau cymdeithasol.

“Mae SDML (adain fasnachol S4C) yn un o nifer o fuddsoddwyr yn Blurrt ac wedi buddsoddi £227,000 yn y cwmni,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth golwg360.

“Ailstrwythuro”

Sefydlwyd Blurrt yng Nghwmbrân yn 2012, cyn symud i adeilad y Tramshed yn Grangetown, Caerdydd.

Yn ôl y perchnogion, mae’r cwmni yn mynd trwy gyfnod o ailstrwythuro ac mae golwg360 wedi cael cadarnhad bod y swyddfa yn y Tramshed wedi cau.

Mae gweithiwr hefyd wedi dweud wrth golwg360 bod nifer o’r staff wedi cael gwybod bod eu cyflogaeth yn dod i ben, ac y byddan nhw’n derbyn eu cyflog olaf ddiwedd y mis.

Dydi Blurrt ddim wedi cadarnhau na gwrthod hynny, ond mewn e-bost fe ddywed y Prif Weithredwr nad yw’r busnes wedi mynd i’r wal.

Mae gan y cwmni swyddfa yn Llundain ac yn Efrog Newydd hefyd.