Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro yn dilyn “problem dechnegol” gyda’i systemau cyfrifiadurol yn ystod y pythefnos diwetha’.

Bu swyddogion yn methu gwneud eu gwaith a’r cyhoedd yn methu cael at wasanaethau.

Mae systemau Technoleg Gwybodaeth a gwefan y cyngor sir wedi bod lawr.

Ond er bod “bron pob problem” wedi’i datrys erbyn hyn, bu yn rhaid diffodd ambell system am “gyfnodau byr” ar ddechrau’r wythnos er mwyn gwneud newidiadau pellach.

Maen nhw hefyd yn cadarnhau na fu “unrhyw risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol” yn ystod cyfnod hwn.

Cynnal adolygiad

“Fel Cyngor, ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i drigolion lleol oherwydd y problemau technegol hyn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Bydd adolygiad llawn yn cael ei gynnal fel y gallwn ystyried os bydd angen cynnal gwaith pellach ar ein systemau.

“Mae’n gynamserol i ddweud beth oedd achos y problemau hyd nes bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau.”