Mae’r cysylltiad rhwng Côr y Cewri (Stonehenge) a Chymru wedi cryfhau ymhellach yn sgil darganfyddiad diweddaraf gwyddonwyr o Rydychen.

Roedd arbenigwyr eisoes yn gwybod bod yna gysylltiad cryf rhwng gorllewin Cymru â’r heneb yn Wiltshire yn Lloegr, gan fod ei meini gleision yn hanu o Sir Benfro.

Ond yn sgil gwaith ymchwil gan dîm o Brifysgol Rhydychen, mae gwir gryfder y berthynas wedi dod i’r fei.

Darganfyddiad diweddaraf y tîm yma, yw mai gweddillion pobol hynafol o orllewin Cymru sydd wedi’u claddu ar safle’r meini.

Ac mae lle i gredu bod yr unigolion yma wedi helpu i godi’r cerrig mawrion.

Damcaniaethau

Mae’r darganfyddiad yma o bwys, gan fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â sut cafodd y cerrig eu codi, a sut wnaethon nhw gyrraedd yno yn y lle cynta’.

Un damcaniaeth yw bod y cerrig wedi’u codi yng Nghymru yn wreiddiol, ond eu bod wedi’u trosglwyddo i Loegr yn ddiweddarach.

Byddai’r darganfyddiad wedi bod yn fel ar fysedd y diweddar Athro Geoffrey Wainwright, cyn Brif-archeolegydd â Threftadaeth Lloegr, a fynnodd trwy ei oes mai’r Cymry a gododd y meini.