Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn agor yn swyddogol heno (nos Wener, Awst 3), gyda chyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm.

Hwn yw fy Mrawd yw enw’r cynhyrchiad, gyda Bryn Terfel yn y brif ran.

Mae’r perfformiad yn edrych ar berthynas Paul Robeson – yr actor-ganwr ac ymgyrchydd gwleidyddol o’r Unol Daleithiau – gyda Chymru.

Mae’r noson agoriadol yn cyd-daro â nodi 60 mlynedd ers i Paul Robeson ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958.

Mererid Hopwood sy’n gyfrifol am y libreto, a Robat Arwyn am y gerddoriaeth.

Bydd y cyngerdd yn cael ei berfformio ddydd Sadwrn (Awst 4) hefyd. Mae pob un o’r tocynnau ar gyfer y ddwy noson wedi’i werthu.