Mae Mudiad Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc (NFYFC) wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol yn y dyfodol.

Mae bwrdd rheoli’r sefydliad – sy’n cynrychioli Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr – wedi dod i’r penderfyniad hwn yn dilyn adolygiad o’r digwyddiad sy’n codi tua £200,000 i goffrau’r mudiad yn flynyddol.

Mae’r digwyddiad poblogaidd yn cael ei gynnal yn flynyddol tua mis Mai, gyda’r lleoliad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn rhwng trefi Blackpool neu Torquay yn Lloegr.

Mae’n ddigwyddiad sy’n gyrchfan i filoedd o ffermwyr ifanc o Gymru a Lloegr, lle mae cyfle iddyn nhw fwynhau penwythnos o gystadlu, cyfarfodydd a dathlu.

Ond mae bwrdd rheoli’r NFYFC wedi penderfynu gohirio’r digwyddiad ar gyfer y dyfodol wrth iddyn nhw “adnewyddu” yr hyn mae’n nhw’n ei gynnig i’w haelodau.

Mewn datganiad swyddogol, mae’r mudiad yn dweud bod nifer o ddigwyddiadau answyddogol yn y gorffennol wedi “cysgodi’r” gweithgareddau hynny sy’n cael eu trefnu ganddyn nhw.

Mae’r mudiad hefyd, meddai’r datganiad, yn ceisio troi’n “gwmni elusennol”, a fydd golygu bod rhaid cynnal adolygiad o strwythur y mudiad a sut mae’n cael ei llywodraethu.

“Newyddion trist”

“Yn dilyn adolygiad, mae wedi cael ei gytuno bod y llwyddiannau a’r dathliadau y tu fewn i leoliad y digwyddiad yn cael ei gysgodi gan ddigwyddiadau y tu allan i weithgareddau swyddogol NFYFC,” meddai’r datganiad.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud yn dilyn adborth gan Gyngor NFYFC, ffederasiynau sirol a staff.”

“Tra bo’r NFYFC yn cydnabod bod hwn yn newyddion trist i nifer o aelodau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc, partneriaid a noddwyr, mae’r sefydliad yn ystyried sut y gallwn ni ymchwilio i gyfleodd newydd er mwyn symud ymlaen.”