“Bach o hwyl” yw’r bathodynnau ‘Leannearchist’ sydd wedi’u creu ar gyfer ymgyrch Leanne Wood yn etholiad arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae lluniau o’r bathodynnau wedi cael eu rhannu ar dudalen Facebook ymgyrch yr arweinydd presennol, ac yn cyfeirio at ei “chefndir sosialaidd” a’i gwleidyddiaeth “wahanol”, yn ôl un o’i chefnogwyr.

“Mae’r etholiad hyd yn hyn wedi bod yn sych iawn ac yn ddifrifol iawn, mae’r bathodynnau yma yn bach o hwyl rili i fynd gyda’r ymgyrch,” meddai’r cynghorydd Elyn Stephens wrth golwg360.

“Nid anarchist yn y term academaidd ond bod ei gwleidyddiaeth hi bach yn wahanol, mae’n dod o gefndir sosialaidd iawn. Mae e’n cyfeirio at ei chefndir hi.”

Cefnogwyr oedd yn gyfrifol am greu’r bathodynnau ac mae Leanne Wood ei hun wedi’u rhannu ar ei thudalen Facebook.