Mae comedïwr o Gwm Tawe a fydd yn perfformio yng Ngwyl Ffrinj Caeredin y mis hwn, yn dweud fod y sîn wedi altro tipyn yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe ddaeth Noel James yn enw adnabyddus i wylwyr sioe dalent Britain’s got Talent eleni pan gyrhaeddodd y rownd gynderfynol. Ymhen ychydig ddyddiau, fe fydd yn dechrau ar bythefnos o berfformiadau yng Nghaeredin.

“Pan ddechreuais i mas ar ddiwedd yr wythdegau, doedd dim sin comedi o gwbwl bron yng Nghymru gyfan – heblaw am nosweithiau llawen a’r fath yna o gomedi,” meddai wrth golwg360.

“Doedd dim comedi amgen a chomedi cyfoes. Ond yn awr mae’r sin wedi cryfhau. Mae yna lot o bobol gyda syniadau creadigol iawn. Ugain mlynedd yn ôl fyddet ti ddim yn amgyffred y peth. Fyddet ti ddim yn medru dychmygu bydde hynny yn rhywbeth bydde wedi tyfu.”

Mae Noel James yn ategu bod y sîn yn “fwy nag erioed o’r blaen”, ond yn nodi ei fod yn bell o fod yn “rocking”.

Caeredin

Bydd Edinburgh Fringe yn dechrau yfory (Awst 3) gan bara tan Awst 27, ac am bythefnos fe fydd Noel James yn cynnal perfformiadau o’i sioe Lumbar Puncture.

Mae’n dweud bod y profiad yn “lot o waith”, yn “gystadleuol ofnadwy”, yn medru bod yn hynod o gostus, ac ar adegau “yn dorcalonnus”.

“Dw i’n methu dweud fy mod i’n mwynhau gwneud y Fringe fel arfer,” meddai, “ond o’n i’n meddwl, ar gefn Britain’s Got Talent, y bydde fe falle’n syniad i fynd lan jest i gadw fy mhroffil yn amlwg.”

Mae’n tynnu sylw at bwysau rhyngweithio, plesio sgowtiaid talent, hysbysebu sioeau, ac adolygiadau gan ategu pa mor anodd iawn yw “gwireddu’r freuddwyd”.

“Yn aml iawn, does neb yn sbotio ti. Does dim sgowtiaid talent yn dod i dy sioe. A hefyd mae’r adolygiadau yn rhai negyddol iawn.”

Edrych i’r dyfodol

Wrth edrych at y dyfodol mae Noel James ychydig yn fwy positif.

Mae ei ddyddiadur yn llawn am weddill y flwyddyn, meddai, ac mae’n gobeithio perfformio ar cruse yn y Caribi ym mis Tachwedd.