Mae dyn lleol wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol mewn gwesty yn Aberystwyth.

Mae Damion Harris, 30, o Lanbadarn Fawr, yn wynebu cyhuddiadau o gynnau tân yng ngwesty Tŷ Belgrave ar y prom, gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ddoe (dydd Mercher, Awst 1) ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Aberystwyth heddiw (dydd Iau).

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave, Ffordd Glan y Môr, am 2.21yb, fore dydd Mercher, Gorffennaf 25. Fe lwyddon nhw i achub naw oedolyn a thri phlentyn, ond mae un person yn dal i fod ar goll.