Fe fydd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Paul Davies, yn lansio ei ymgyrch am arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Awst 2).

Wrth annerch rhai o’i gefnogwyr yn Brynbuga, Sir Fynwy, mae disgwyl iddo alw am drawsnewid y Ceidwadwyr Cymreig cyn y gellir meddwl am drawsnewid Cymru.

Ac mae disgwyl i Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro hefyd ddweud ei fod am “roi hwb o egni” i gefnogwyr ac aelodau llawr gwlad i’w paratoi ar gyfer Etholiad Cynulliad 2021.

Bydd hefyd yn dweud mai targedu seddi Llafur a “gwanhau eu gafael ar bŵer” fydd ei nod, petasai’n arweinydd ar y blaid yn ystod yr etholiad nesa.

“Camu ymlaen”

“All ein gwlad ni ddim goddef pum mlynedd arall â Llafur wrth y llyw,” meddai Paul Davies. “Mae ein plaid wedi bod yn wrthblaid yn y Cynulliad am yn rhy hir.

“Dw i’n credu bod gyda ni, y Ceidwadwyr, lawer o atebion i broblemau Cymru. Ond allwn ni ddim trawsnewid ein gwlad wrth fod yn wrthblaid.

“Felly, oherwydd fy rhwystredigaeth gyda’r presennol, a fy awydd i adnewyddu ein gwlad yn y dyfodol, dw i am gamu ymlaen yn ymgeisydd i fod yn arweinydd.”