Helen Mary Jones sy’n cymryd lle Simon Thomas yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cael ei hysbysu gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, y bydd cyn-Aelod Plaid Cymru tros etholaeth Llanelli, yn dod yn un o bedwar aelod rhanbarthol.

Roedd golwg360 wedi cyhoeddi y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ddoe (dydd Mercher, Awst 1) o ran trefniadau gwaith Helen Mary Jones ym Mhrifysgol Abertawe a pha mor ymarferol oedd iddi ddychwelyd i Fae Caerdydd i weithio tan etholiadau nesa’r Cynulliad yn 2021.

Mae disgwyl i Helen Mary Jones dyngu llw mewn seremoni breifat yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Awst 2).