Pan gamodd y diweddar Alwyn Roberts o’i swydd yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, roedd gweddill aelodau Cyngor y brifwyl yn ei gymeradwyo’n llawn edmygedd.

Ond, wrth fynd, roedd ganddo ef rybudd i drefnwyr y dyfodol – er bod pedair Eisteddfod Genedlaethol yn olynol wedi gwneud elw ariannol, meddai, doedd hi ddim yn bosib gorffwys ar y rhwyfau.

Bryd hynny, fe gyhoeddwyd yn falch bod prifwyl Sir Fynwy 2016 wedi talu ei ffordd gyda gweddill o £6,000 – a hynny pan oedd Alwyn Roberts a’i bwyllgor wedi amau y gallai’r arbrawf o ymweld a chornel ddi-Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru “gostio inni”, meddai.

Ac er i wyliau Sir Ddinbych (2013), Sir Gâr (2014) a Meifod (2015) sicrhau elw ariannol, croeso gofalus gafodd hynny gan y cyfreithiwr rhesymegol.

“Rydan ni mewn sefyllfa obeithiol, ond dydan ni ddim cweit wedi cyrraedd y miliwn o bunnau wrth gefn yr ydan ni wedi’i osod fel nod,” meddai Alwyn Roberts, “ac yn sicr, dydan ni ddim yn agos at gyrraedd nod Comisiwn yr Elusennau o fod a gwariant blwyddyn yn y gronfa wrth-gefn.

“Er mwyn sicrhau hynny, mi fyddai angen bron i £4m arnon ni.”

Ac wrth gamu o’r swydd, meddai Alwyn Roberts, “un eisteddfod wleb sydd ei hangen, ac mi fyddai hynny’n bwyta i mewn i’r hyn sydd ganddon ni wrth gefn”… ac yna fe ddaeth prifwyl a throchfa Sir Fôn 2017 i brofi ei fod yn llygad ei le.

Erthyglau eraill yn y gyfres

Marw Alwyn Roberts, Tregarth, yn 84 oed

“Diolch am gyfaill beirniadol” meddai Cadeirydd S4C

Y cenhadwr – a’r cymodwr – mwyn yn Mizoram 1966