Wrth i deyrngedau gael eu rhoi yng Nghymru heddiw (Awst 1) ar farwolaeth y Parchedig Ddr Alwyn Roberts, Tregarth, mae yna bobol yng ngogledd ddwyrain India hefyd yn ei gofio yn brifathro ac yn genhadwr yno ar adeg o drais.

Wedi iddo gael ei ordeinio’n weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1960, fe aeth Alwyn Roberts a’i wraig, Mair, allan i Aizwal i fod yn genhadon yn fuan wedi hynny. Fe anwyd eu mab cyntaf yno yn 1962, ac yn 1967 y daethon nhw adref i Gymru.

Ym mis Mawrth, 1966, fe ymosododd llu awyr India ar ei phobol ei hun, trwy fomio Aizawl yn nhalaith Mizoram.

Roedd yr helynt wedi dechrau bum mlynedd cyn hynny, pan oedd Bryniau Mizo yn rhan o dalaith Assam a phan gafodd Ffrynt Cenedlaethol Mizo ei sefydlu er mwyn sefyll dros yr hawl i hunan-lywodraeth. Er i’r Ffrynt gael ei sefydlu ar sail heddychlon, fe newidiodd pethau’n gyflym wrth iddyn nhw gael eu gwasgu gan y drefn.

Erbyn 1966, roedd pobol Mizoram wedi’u gwahardd rhag cymryd rhan mewn etholiadau; doedden nhw ddim yn cael eu cofnodi ar yr un cyfrifiad; ac roedd adeiladau yn cael eu llosgi a’i difrodi mewn llefydd fel Aizwal.

Mizoram yn dal i gofio

Ond mae’r cof am Alwyn Roberts, yn brifathro coleg yno ac yn llywydd cymanfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, fel un oedd yn gallu trafod yn bwyllog gyda phob math o bobol yn y cyfnod gwyllt hwnnw.

“Prif bryder Alwyn Roberts oedd am ddiogelwch y merched a’r plant,” meddai llefarydd ar ran yr eglwys yn Mizoram heddiw.

“Dan ei lywyddiaeth o, fe gyhoeddodd Cymanfa’r Eglwys Bresbyteraidd bamffled oedd yn condemnio’r ymateb treisgar i’r ffaith bod yr Efengyl yn cael ei dysgu yn India. Roedd o’n mynnu bod hynny’n mynd yn groes i hawliau dynol.

“Ond fe gafodd y bamffled honno ei gwahardd gan Swyddfa Gartref y llywodraeth ar y pryd, ac fe gafodd gweinidogion a Christnogion eu siarsio i ymddwyn yn gyfrifol, neu wynebu’r canlyniadau.”

Roedd yn rhaid i bobol Mizoram aros nes 1987 cyn cael eu talaith eu hunain, a thorri’n rhydd o Assam.

Erthyglau eraill yn y gyfres 

Marw Alwyn Roberts, Tregarth, yn 84 oed

“Diolch am gyfaill beirniadol” meddai Cadeirydd S4C

Alwyn Roberts a’i rybudd olaf i Gyngor y brifwyl