Bu farw’r academydd a’r meddwl craff, Alwyn Roberts, Tregarth. Roedd yn 84 oed ac wedi rhoi oes o wasanaeth ymarferol i Gymru a’r iaith Gymraeg.

Dros gyfnod o 60 mlynedd, fe dreuliodd amser yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor, yn un o aelodau Cymru ar fwrdd llywodraethwyr y BBC, ac roedd tan y llynedd yn cadw llygad ar arian wrth-gefn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu ei Chyngor.

Mae cydweithwyr wedi talu teyrnged i ddyn oedd yn “rhoi llawer mwy” na hyd a lled unrhyw rôl swyddogol – y cymeriad a’r hiwmor tawel a oedd bob amser ar gael am sgwrs a gair i gall.

Yn ystod ei oes, fe fu’r mab y Mans yn aelod o Gyngor Gwynedd ac o’r Bwrdd Parôl; fe eisteddodd ar Awdurdod Iechyd Gwynedd yn fuan wedi’i sefydlu; ac fe fu’n gadeirydd y Cyngor Darlledu a Chymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru.

Fe fu’r Parchedig Ddoctor Alwyn Roberts hefyd yn Is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ac roedd yn un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C.

Erthyglau eraill y gyfres

“Diolch am gyfaill beirniadol” meddai Cadeirydd S4C

Y cenhadwr – a’r cymodwr – mwyn yn Mizoram 1966

Alwyn Roberts a’i rybudd olaf i Gyngor y brifwyl