Mae Llywodraeth Cymru yn annog rhieni a phlant ledled Cymru i ymarfer eu cyrff trwy chwarae yn hytrach nag aros da do.

Daw’r neges hon ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Mercher cynta’ mis Awst er mwyn gynyddu’r ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae plant.

Yn ôl y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, mae’n bwysig annog plant a rhieni i fynd allan i chwarae, boed hynny yn eu cymuned neu drwy fynd i un o’r digwyddiadau cymunedol sy’n cael eu cynnal yn ystod y dydd.

Mae hyn yn bwysig, meddai, yn enwedig wrth i waith ymchwil ddangos bod dros 40% o blant Cymru naill ai yn ordew neu’n rhy drwm erbyn eu bod nhw’n cyrraedd 11 oed.

“Mae chwarae yn hanfodol”

“Yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae Diwrnod Chwarae yn ffordd ardderchog i roi syw i’r rhan bwysig y dylai chwarae ei chael ym mywydau plant,” meddai.

“Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad gwybyddol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant.

“Mae hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles y plant a’u teuluoedd, yn ogystal â chyfrannu at y cyfleoedd a fydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol.

“Hoffwn annog rhieni i ddefnyddio Diwrnod Chwarae eleni fel cyfle i gael eu plant i fynd allan i chwarae yn yr awyr iach.”