Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n dal i chwilio am ddyn a aeth i drafferthion mewn marina yn Sir Benfro dros y Sul.

Mae lle i gredu bod y dyn wedi mynd ar goll tua 3:30yp ddydd Sul (Gorffennaf 29), a hynny ar ôl iddo fynd i drafferthion yn nŵr marina Neyland yn ne’r sir.

Roedd yr ymdrech i’w chwilio y cynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolfan a Gorllewin Cymru, ynghyd â thimoedd o wasanaethau eraill.

Mae’r ymdrech wedi’i lleihau ers neithiwr, ond mae hofrennydd yn parhau i hedfan dros yr ardal yn ystod amseroedd allweddol o’r dydd.

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau ar y safle hefyd.