Fe fydd £10m yn cael ei wario ar ambiwlansys a cherbydau cludo newydd a fydd yn “wyrddach” o ran yr amgylchedd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe fydd yr ambiwlansys newydd yn rhai haws eu trin ac yn cyrraedd safonau allyriadau diweddara’ Ewro 6.

Mae’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn darparu 25 ambiwlans newydd, 33 beic modur, 33 cerbyd cludo teithwyr a naw cerbyd argyfwng arbenigol ar gyfer digwyddiadau mawr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fwy na 700 o gerbydau yng Nghymru, ac ers 2011 maen nhw wedi buddsoddi bron £55m mewn cerbydau newydd.

“Uwchraddio”

“Rwy’n falch iawn o fedru cyhoeddi’r cyllid hwn o £10.23m i gael cerbydau modern, mwy gwyrdd ac effeithlon o ran tanwydd yn lle rhai o’n hen ambiwlansiau a cherbydau cludo teithwyr,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu bod modd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru uwchraddio ei fflyd i sicrhau bod ganddo gerbydau priodol i ddarparu’r gofal gorau posib i bobol Cymru.”