Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â thân yn Aberystwyth yr wythnos ddiwetha’.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave, Ffordd Glan y Môr, am 2.21yb, ar fore ddydd Mercher (Gorffennaf 25).

Yno, fe lwyddon nhw i achub naw oedolyn a thri phlentyn, a chafodd pump ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty. Mae un person yn dal i fod ar goll.

Mae’r Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r achos ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Does dim manylion eto ynglŷn â beth achosodd y tân.

Apêl

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd ger y gwesty ar Ffordd Glan y Môr neu Ffordd y Môr, rhwng canol nos Gorffennaf 24, a 3yb ar Orffennaf 25.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.