Mae bywyd dynes 44 oed mewn perygl ar ôl i’w char foelyd ar draffordd M4 fore heddiw.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad i gyfeiriad y dwyrain rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 34 (Meusgyn).

Roedd y ffordd ynghau am gryn amser.

Roedd hi’n gyrru ei char Vauxhall Corsa glas am oddeutu 6.35y.b.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth yn dilyn y gwrthdrawiad.