Mae’r M4 ar agor unwaith eto i’r dwyrain rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 34 (Meusgyn) ar ôl i gar foelyd.

Roedd y ffordd ynghau yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 6.40 fore heddiw.

Glaniodd yr ambiwlans awyr ar y draffordd yn fuan wedi’r digwyddiad.