Mae rhybudd melyn wedi’i gyhoeddi yn y de yn sgil glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

Daw’r tywydd garw ag wythnosau o heulwen i ben.

Mae’r rhybudd i’r de a’r gorllewin yn ei le tan 3 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 29).

Fe allai ardaloedd fel Bannau Brycheiniog weld hyd at 80mm (tair modfedd) o law, a’r gwynt yn codi i 50 milltir yr awr ar hyd yr arfordir.

Mae rhybudd y gallai llifogydd darfu ar deithwyr, ac fe allai rhai ardaloedd golli eu cyflenwadau trydan.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r newid sylweddol yn y tywydd olygu bod llifogydd yn cael mwy o effaith nag arfer.