Mae’r M4 ynghau i’r dwyrain rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 34 (Meusgyn) ar ôl i gar foelyd.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 6.40 fore heddiw.

Glaniodd yr ambiwlans awyr ar y draffordd yn fuan wedi’r digwyddiad.

Dydy hi ddim yn glir a oedd cerbyd arall yn y gwrthdrawiad, a dydy’r gwasanaethau brys ddim wedi cadarnhau a gafodd unrhyw un ei anafu.