Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law trwm a gwyntoedd cryfion ar draws de Cymru heddiw ac yfory.

Fe ddaeth y tywydd poeth i ben yn ddisymwth ddoe, gyda stormydd o fellt a tharanau mewn llawer rhan o Brydain. Ychydig iawn o ardaloedd a welodd y lleuad goch neithiwr oherwydd ei bod mor gymylog.

Mae disgwyl i’r tywydd waethygu ac oeri eto at yfory.

“Fe fydd hyn yn gyferbyniad llwyr i’r hyn ydym wedi ei gael yn ddiweddar, gan gynyddu’r siawns o ddrwg effeithiau,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

Mae disgwyl gwyntoedd deheuol o tua 35-40 mya, a hynny’n codi i hyd at 50 mya ar arfordiroedd a bryniau agored.

Mae Bannau Brycheiniog ymysg yr ardaloedd lle mae disgwyl y mwyaf o law, gyda rhagolygon o hyd at 60-80mm ar y llethrau deheuol.