Mae siop feicio yng Nghaerdydd yn dweud bod busnes wedi cael hwb yn dilyn llwyddiant y Cymro, Geraint Thomas, yn y Tour de France.

Mae’r seiclwr 32 oed, ar hyn o bryd yn arwain y ras, ac os yw’n llwyddo i ddal gafael ar ei safle, ef fydd y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth fyd-enwog ym Mharis dydd Sul.

Ac mae’r cyffro wedi cyrraedd ei gartref yng Nghaerdydd, lle mae mwy o bobol yn seiclo a mwy o bobol yn prynu nwyddau y mae Geraint Thomas, a’i gyd-aelodau yn Nhîm Sky yn eu defnyddio, yn ôl Hopcyn Matthews, sy’n gweithio yn The Bike Shed ym Mhontcanna.

“O ran ochr y siop, mae wedi cynyddu busnes oherwydd mae mwy o bobol yn edrych ar y stage pob diwrnod ac eisiau bod yn rhan o’r llwyddiant, nid jyst Tîm Sky, ond bod yn rhan o’r Tour ei hun,” meddai wrth golwg360.

“Mae pobol yn dod i mewn i brynu beics neu os oes ganddyn nhw feics yn barod, maen nhw’n dod mewn i gael poteli bach Tîm Sky neu’r un energy bars mae Geraint yn defnyddio.

“Ti’n gweld cymaint o bobol [yn seiclo] ar yr hewl hefyd, falle’ gyda’r haf a’r tywydd neis ond fi’n siŵr mae yna linc rhwng buddugoliaeth Tîm Sky eleni a chynnydd y bobol sydd ar yr hewl ar hyn o bryd.

“Achos mae’n eitha’ syml, dyna gyd ti’n gorfod cael yw beic, does dim angen tîm, ti’n gallu mynd allan ar ben dy hun so mae’n eitha’ hawdd i unrhyw un gymryd rhan.

“Maen nhw’n copïo Geraint Thomas, Luke Rowe, Owain Doull, Scott Davies, pedwar Cymro sy’n seiclo yn broffesiynol ar hyn o bryd, yn enwedig Geraint Thomas… mae e’n cael huge effect ar bobol ifanc a phobol hŷn sy’n mwynhau seiclo.”

“Geraint i ennill”

Er bod dau ddiwrnod ar ôl, mae Hopcyn Matthews yn hyderus mai Cymro fydd yn gwisgo’r crys melyn dydd Sul ac yn ennill y Tour de France.

Without a doubt bydd e’n ennill, y cymal anoddaf sydd heddiw, cyhyd â bod popeth yn mynd yn ffein heddiw, bod e ddim yn colli amser.

“Mae gyda nhw’r individial time trial fory (dydd Sadwrn) ac mae Geraint yn gryf yn gwneud hwnna. Fel arfer, dyw’r dringwyr ddim yn gryf yn gwneud yr individual time trial, ond mae Geraint yn achos mae’n dod o gefndir track cycling, mae e’n gryf yn gwneud hwnna.

“Felly bydd jyst gyda fi procession ride ym Mharis dydd Sul. Ie, Cymro cyntaf yn y crys melyn i ennill fe dydd Sul.”