Mae disgwyl awyr glir uwchben Cymru heno ar gyfer un o ryfeddodau’r gofod – eclips a fydd yn troi lliw’r lleuad yn goch.   

Yn ystod yr eclips bydd y lleuad lawn yn newid lliw wrth iddo basio trwy gysgod y ddaear.

Bydd hyn yn para am 103 munud – er y byddwn yn methu gweld dechrau’r eclips yng Nghymru – a bydd diffyg rhannol i’w weld am bedair awr yn gyfan gwbwl.

Mae disgwyl i’r lleuad godi uwchben Caerdydd am 9.02yh, am 9.09yh yn Aberystwyth, ac am 9.13yh yng Nghaernarfon.

Mae ddiffyg o’r math yn bethau cymharol brin, ac ni fydd un arall tan Ionawr 19, 2019.

Bydd unigolion a fydd yn syllu at y sêr heno hefyd yn medru gweld planed Mawrth, ac yn medru gweld yr Orsaf Ofod Ryngwladol ar ôl 11yh.