Mae un person yn dal i fod ar goll yn dilyn tân mewn gwesty yn Aberystwyth fore Mercher yr wythnos hon (Gorffennaf 25).

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave, Glan y Môr, am 2.21yb, ac fe lwyddon nhw i achub naw oedolyn a thri phlentyn.

Fe gafodd pump o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlansys, wrth i’r tân ledu i adeiladau cyfagos.

Bellach mae’r tân wedi’i ddifodd ac mae cyfrifoldeb am y mater wedi’i drosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys.

Mae’r llu yn ymchwilio i’r achos ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Does dim manylion eto ynglyn â beth achosodd y tân.