Mae nifer yr achosion yn ymwneud ag arfau sydd wedi’u cofnodi gan heddluoedd Cymru a Lloegr wedi cynyddu o 19% i 18,746 yn 2017/18 – y nifer uchaf ers 2010/11, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref.

Mae hynny’n golygu bod 2,937 o achosion ychwanegol wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn honno. Yn 2017, 15,809 o achosion gafodd eu cofnodi.

Dyma’r nifer uchaf o weithrediadau heddlu arfog ers 2010/11 pan oedd 19,586.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod 6,459 o swyddogion arfog yn gweithio i’r heddlu erbyn diwedd mis Mawrth eleni – cynnydd o 3% (181 o swyddogion) o’i gymharu â diwedd Mawrth, 2017. Y nifer uchaf ers 2009.