Mae gwefan Cyngor Gwynedd i lawr am y trydydd diwrnod yn olynol, ond mae’r awdurdod wedi cadarnhau nad ydi’r system wedi cael ei hacio.

Dydi hi ddim yn bosib i drigolion ddefnyddio’r wefan ers nos Sul (Gorffennaf 22), na chwaith gysylltu ag adrannau trwy ebost.

Mae’n golygu na fedr pobol chwaith anfon gair at eu cynghorwyr trwy’r wefan.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau heddiw fod yna drafferthion technegol yn amharu ar y gwasanaeth, ac newydd nodi nad ydi’r gwasanaeth wedi’i dargedu yn fwriadol.

Mae manylion personol yn cael eu llwytho i’r wefan wrth i drigolion dalu treth y cyngor a dirwyon parcio gan ddefnyddio cerdyn banc, ac mae cyfeiriadau’n cael eu rhoi wrth drefnu casgliadau sbwriel a gwasanaethau eraill.

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Mae problem dechnegol wedi golygu fod gwefan a systemau technoleg gwybodaeth y Cyngor wedi eu heffeithio dros y dyddiau diwethaf.

“Gallwn gadarnhau nad ydi’r system wedi ei hacio.

“Rydym yn gweithio i adfer y systemau cyn gynted â phosib ac mae elfennau o’r system bellach yn gweithio yn ôl.

“Gallwn gadarnhau yn bendant nad yw’r broblem dechnegol yma wedi golygu unrhyw risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol, am y cyhoedd nac am staff.”