Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi arestio unigolyn o Aberystwyth ar amheuaeth o fod â “delweddau anweddus” yn ei feddiant.

Daw hyn mewn ymateb i gais gan golwg360 ynglŷn ag ymchwiliad yr heddlu i’r cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, sydd wedi ymddiswyddo heddiw.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae’r unigolyn wedi cael ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu am 28 diwrnod.

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau eu bod yn “ymwybodol o ymchwiliad heddlu i honiadau o drosedd ddifrifol” yn erbyn Simon Thomas.

Simon Thomas

Simon Thomas oedd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chafodd ei ethol yn 2011.

Mae’r dyn 54 blwydd oed yn dad i ddau, a bellach wedi dileu ei wefan Twitter a’i wefan personol.

Gan mai Aelod rhanbarth oedd ef – yn hytrach nag aelod etholaeth – fe fydd y ffigwr nesa’ ar restr Plaid Cymru ar y rhanbarth, Helen Mary Jones, yn cymryd ei le.