Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, wedi ymddiswyddo, yn sgil ymchwiliad heddlu i honiadau o “drosedd ddifrifol”.

Ef oedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chafodd ei ethol i’r swydd yn 2011.

Mae’r gwleidydd 54 oed, yn dad i ddau, ac mae bellach wedi dileu ei wefan Twitter a’i wefan personol.

Trosedd ddifrifol

“Mae Plaid Cymru wedi derbyn ymddiswyddiad Simon Thomas fel aelod o’r blaid,” meddai Alun Ffred Jones, Cadeirydd Plaid Cymru.

“Rydym yn ymwybodol o ymchwiliad heddlu i honiadau o drosedd ddifrifol. Yn sgîl yr ymchwiliad hwnnw sy’n mynd rhagddo, ni fyddai’n briodol i wneud unrhyw sylw pellach am y tro.”