Mae teyrnged wedi’i rhoi i gerddwr 73 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Abertawe ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 23).

Bu farw Steve Phillips yn y fan a’r lle ar ôl cael ei daro gan gerbyd Renault Clio melyn ar Stryd Roger, Troeboeth, toc wedi 2yp.

Mae ei deulu wedi’i ddisgrifio fel gŵr, tad a thad-cu “cariadus”, a oedd yn frwdfrydig dros hanes Abertawe ac wrth ei fodd yn canu yng nghôr Tenovus.

“Fe fydd Steve yn cael ei golli gan bawb a oedd yn ei nabod,” meddai datganiad y teulu. “Roedd e, yn ei ffordd ei hunan, yn ddyn doeth a’n carodd ni ac a ofalodd amdanon ni i gyd.

“Fe fydd bywyd yn llai hebddo.”