Mae’r gwaith o drawsnewid Bae Caerdydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yno ddechrau Awst, bellach wedi dechrau.

Mae ffensys wedi’u gosod y tu allan i adeilad y Senedd a’r Pierhead, ac mae fframiau stondinau wedi’u codi yno hefyd.

Er nad oes gwaith wedi dechrau y Mhlass Roald Dahl, mae pentyrrau o fframiau metel wedi’u gosod yno’n barod, ac mae ffensys o amgylch yr ardal. Yn fan hyn y bydd Llwyfan y Maes a’r Pentre Bwyd,  ynghyd â bariau, stondinau a byrddau picnic.

Mae pentyrrau o fframiau hefyd i’w gweld ger adeilad Caffi’r Lock Keeper, ond does dim byd wedi’i osod yno eto. Yn yr ardal honno y bydd y Tŷ Gwerin, a Bar Syched.

Ar ben gwaelod y bae, gallwch weld baner anferth ‘Maes B’  ar hen ganolfan y Doctor Who Experience, ynghyd ag arwyddion â’r lein-yps – yn fan hyn y bydd y gigs ieuenctid.

Bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Awst 3 ac Awst 11.

Eisteddfod 2018
Eisteddfod 2018
Maes B 2018
Eisteddfod 2018