Petasai Aelodau Seneddol o bob plaid yn San Steffan yn uno â’i gilydd i wrthwynebu Brexit, fe fyddai hynny’n atgyfnerthu’r ddelwedd negyddol ohonyn nhw.

Dyna yw barn yr Athro Pete Dorey – Athro Gwleidyddiaeth Brydeinig ym Mhrifysgol Caerdydd – a daw ei sylwadau wrth i’r alwad gryfhau am gydweithio rhyng-bleidiol er mwyn trechu llywodraeth Theresa May.

Un llais amlwg o blaid y fath drefn yw Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru, sydd wedi cyhoeddi ei fod am weld “trefniant tymor byr” rhwng ei blaid a phleidiau eraill – gan gynnwys y Torïaid – yn erbyn Brexit.

Ym marn, Pete Dorey, byddai hynny’n cael ei bortreadu fel  rhagor o dystiolaeth o’r “elit rhyddfrydol yn San Steffan, yn anwybyddu ewyllys y bobol.”

“Os fydd gwleidyddion yn dod at ei gilydd – trwy ffurfio plaid newydd, neu trwy greu cynghrair rhyng-bleidiol ar y mater penodol yma i geisio rhwystro Brexit – bydd hynny’n atgyfnerthu’r syniad bod seneddwyr yn anwybyddu daliadau pobol gyffredin,” meddai wrth golwg360.

“A gall hynny greu rhagor o holltau gwleidyddol ledled y wlad. Dw i’n credu ein bod mewn rhyw fath o stalemate. Oherwydd os bydd Brexit yn digwydd, bydd ei oblygiadau yn hynod o amhoblogaidd. Ond, ar y llaw arall, os na fydd yn digwydd, bydd pobol yn teimlo’u bod wedi’u bradychu.

“Beth fydd yn digwydd? Dw i ddim yn siŵr. Ond, dw i ddim yn gweld ffordd o osgoi Brexit.”

Mae’n ategu bod Aelodau Seneddol eisoes yn cynnal “cyfarfodydd cyfrinachol” tros uno, ac yn cydweithio ar lefel anffurfio i wanhau Brexit – ond nid “mudiad trefnus” yw hyn.

Plaid newydd?

Mae Pete Dorey yn nodi bod “ystod o opsiynau” ar gael i Aelodau Seneddol sydd am gydweithio â phleidiau eraill, gan gynnwys sefydlu cynghrair rhyng-bleidiol neu ffurfio plaid newydd.

Does “dim gobaith” ffurfio plaid newydd, meddai’r athro, ac mae’n dweud ei fod yn “anodd gweld sut bydd hynny’n gweithio go iawn”.

Byddai ffurfio clymblaid hefyd yn opsiwn, meddai, ond mae’n nodi na fyddai plaid fach fel Plaid Cymru yn elwa o’r drefn hwnnw.

Yn ôl Pete Dorey, ni fyddai ganddyn nhw lawer o ddylanwad ar y grŵp, ac fe fydden nhw’n cael eu beio am unrhyw fethiannau.