Mae Dŵr Cymru wedi ymateb eto i bryderon am un o’u cronfeydd yn Eryri, gan ddatgan nad oes dŵr yn cael ei dynnu oddi wrtho, ond yn hytrach yn cael ei ychwanegu ato.

Cafodd nifer o danceri eu gweld yn ardal Cwellyn, ar ffordd gefn yr A4085 rhwng Caernarfon a Phorthmadog, yn ystod yr wythnosau ddiwethaf.

Mae Dŵr Cymru yn dweud mai symud dŵr rhwng cronfeydd y gogledd y mae’r tanceri yma, ac yn achos Cronfa Cwellyn does dim dŵr yn cael ei dynnu oddi yno o gwbwl.

Ac mae’r tanceri, yn ol y cwmni, wedi bod yn cludo dŵr i waith trin dŵr Cwellyn er mwyn sicrhau bod yna gyflenwad digonol o ddŵr ar gyfer cwsmeriaid lleol. Daw’r cam o ganlyniad i’r tywydd poeth a’r sychder diweddar.

“Pwmpio”

“Rydym yn pwmpio biliwn o litrau’r dydd mewn i’n rhwydwaith ac yn defnyddio 40 o danceri i symud dŵr o amgylch y rhwydwaith er mwyn gwneud yn siŵr fod digon o ddŵr yn y lle cywir ac ar yr amser cywir i’n cwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.

“Un o’r ardaloedd ble rydym yn defnyddio tanceri ar hyn o bryd yw Waunfawr ble rydym yn cludo dŵr i waith trin dŵr Cwellyn er mwyn sicrhau fod gan gwsmeriaid yn yr ardal gyflenwad digonol o ddŵr.”

Mae Cwellyn, rhwng mynyddoedd Moel Eilio a Mynydd Mawr nepell o bentref Rhyd Ddu, yn llyn 215 acer, ac mae’n 120 troedfedd o ddyfnder.