Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud wrth Lys y Goron Caerdydd nad oedd hi wedi awdurdodi codiad cyflog i’w rheolwr swyddfa.

Dywedodd Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, nad oedd hi’n ymwybodol o ffurflen a oedd yn cynyddu cyflog blynyddol Jenny Lee Clarke o £37,000 i £39,000.

Honnir bod Jenny Lee Clarke wedi ffugio llofnod Carolyn Harris ar y ffurflen a gafodd ei gyflwyno i’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) ym mis Awst 2015.

Clywodd y llys bod y ffurflen hefyd yn golygu bod oriau wythnosol Jenny Lee Clarke yn gostwng o 40 awr i 37.5.

Ar ôl i Ipsa anfon e-bost at Carolyn Harris yn cadarnhau’r newid, honnir bod Jenny Lee Clarke wedi cael mynediad at gyfrif yr AS ac wedi ateb: “Mae hyn yn gywir”.

“Cyfrinachol”

Wrth roi tystiolaeth ddydd Llun, 23 Gorffennaf, dywedodd Carolyn Harris nad oedd hi erioed wedi gweld yr e-bost nac wedi trafod codiad cyflog gyda Jenny Lee Clarke.

Dywedodd ei bod wedi dod yn ymwybodol o’r newid ar ôl i un o’i chydweithwyr anfon adroddiadau staff ei swyddfa ati hi ym mis Ionawr 2016.

Roedd yr AS wedi cysylltu ag Ipsa a oedd wedi cadarnhau bod yr e-bost a gafodd ei anfon at Carolyn Harris yn gyfrinachol.

Cafodd Heddlu De Cymru eu hysbysu a chafodd Jenny Lee Clarke, o Benllergaer, Abertawe ei harestio ym mis Gorffennaf 2016.

Mewn cyfweliad gyda’r heddlu roedd hi wedi cyfaddef arwyddo enw Carolyn Harris ar y ffurflen ac anfon yr e-bost o’i chyfrif ond mae’n mynnu bod yr AS wedi dweud wrthi am wneud hynny.

Mae Jenny Lee Clarke yn gwadu ffugio llofnod a thwyll.

Mae’r achos yn parhau.