Bu farw’r bridiwr a’r arbenigwr ffowls, Picton Jones. Roedd yn 85 oed.
Yn bennaf adnabyddus am adnewyddu diddordeb ym mrîd prin y Brahma, roedd y gwerinwr o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan hefyd yn enwog am fridio pob math o ieir, beirniadu a chystadlu.
Enillodd ei gystadleuaeth gyntaf yn 1942, pan oedd yn ddeg oed, a dechreuodd feirniadu yn 17 oed.
Ar un adeg fe enillodd 250 o wobrau mewn blwyddyn, ac yn 1981 fe gipiodd brif bencampwriaeth dofednod Palas Alexandria, Llundain – y cyntaf o Gymru i wneud hynny.
Daeth yn Llyywydd Anrhydeddus am Oes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 1998, ac yn Gydymaith y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2006.
Derbyniodd yr MBE yn 2008, ac fe gafodd ei dderbyn gan Clwb Dofednod Prydain Fawr yn Aelod Anrhydeddus am Oes yn 2015.