Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 23).

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw toc cyn 2yb ar ôl derbyn adroddiadau am ymosodiad difrifol mewn gardd ar Heol Corporation yn Grangetown.

Fe dderbyniodd dyn ifanc nifer o anafiadau ar ôl cael ei drywanu, a bu farw yn y fan a’r lle.

Er nad yw’r heddlu wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, maen nhw’n credu mai dyn 20 oed o ardal Tre-Biwt yw’r dyn. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae rhannau o Heol Corporation a Stryd Holmesdale yn dal i fod ynghau wrth i’r heddlu barhau â’r ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu a nhw ar 101, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *275707.