Mae ditectifs yng Nghaerdydd yn ymchwilio i ymosodiad difrifol yn ardal Grangetown yn oriau man fore dydd Llun (23 Gorffennaf).

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i’r safle yn Heol Corporation tua 2yb yn dilyn adroddiadau bod ymosodiad wedi bod ar ddyn.

Mae’r heddlu wedi cau nifer o ffyrdd yng Nghaerdydd dros nos.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw wedi cau rhannau o Heol Corporation a Stryd Holmesdale yn Grangetown. Maen nhw’n ychwanegu y gallai trigolion lleol wynebu oedi wrth deithio ar hyd y ffyrdd y bore yma.

Dylai unrhyw sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ac sydd heb siarad gyda’r heddlu hyd yn hyn, gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1800275707.