Mae ffordd A4232 yng Nghaerdydd ynghau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Cafodd yr ambiwlans awyr eu galw i’r digwyddiad ar y ffordd rhwng cyffordd Gorllewin Caerdydd a Chroes Cwrlwys yr M4.

Mae’r heddlu’n rhybuddio teithwyr i gadw draw o’r ardal, ac mae disgwyl cryn oedi.