Mae un o’r ymgeiswyr yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru, Adam Price wedi galw am ddefnyddio pwerau codi trethi er lles y byd addysg yng Nghymru.

Mae’r Aelod Cynulliad tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn awgrymu cynnydd o geiniog yn y dreth incwm a buddsoddi’r arian hwnnw mewn addysg er mwyn codi hyd at £1bn dros gyfnod nesa’r Cynulliad.

Fe fydd y pwerau trethu newydd yn dod i rym fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae Adam Price yn un o ddau Aelod Cynulliad Plaid Cymru, ynghyd â Rhun ap Iorwerth, sy’n herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n newid y dreth incwm cyn etholiadau nesa’r Cynulliad yn 2021.

‘Dihuno’r ddraig o’i thrwmgwsg’

Ond mewn erthygl yn y Sunday Times, mae Adam Price yn dadlau fod angen “dihuno’r ddraig o’i thrwmgwsg” o safbwynt addysg yng Nghymru, a bod angen “syniadau mawr” er mwyn cyflawni hynny.

Yn ei erthygl, mae’n awgrymu “nod i Gymru”, sef “bod y wlad orau yn Ewrop i fod yn ifanc”.

Er mwyn gwireddu hynny, meddai, “mae buddsoddi mewn addysg, yn syml, yn daliad rhagblaen at y dyfodol”.

Mae’n beirniadu Llywodraeth Cymru am yr hyn mae’n ei weld fel tynnu arian o’r byd addysg i ariannu meysydd eraill, yn enwedig yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd sy’n dangos bod prinder sgiliau’n llesteirio’i thwf economaidd.

Ychwanega: “Byddai ceiniog am addysg – cynnydd o 1c yn y dreth – yn ein galluogi ni i fuddsoddi’r swm hwnnw mewn ysgolion a cholegau a phrifysgolion dros gyfnod y Cynulliad.”

Mae’n awgrymu sefydlu colegau arbenigol ac uwchraddio cyfleusterau ysgolion er mwyn “rhoi terfyn ar yr argyfwng” addysg yng Nghymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai Cymru sy’n perfformio waethaf ym myd addysg yng ngwledydd Prydain yn ôl gofynion Pisa.

‘Gwlad wybodaeth’

Mae Adam Price hefyd yn awgrymu y gallai Cymru fod yn “wlad yr wybodaeth yn yr oes peiriannau sydd i ddod”.

Ac wrth gyfeirio at y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru, mae’n gosod her iddo fe ei hun a’i wrthwynebwyr.

“A fydd ein draig ni ein hunain yn codi o’i thrwmgwsg, a sut, yw’r cwestiynau sylfaenol y mae angen i bob darpar-arweinydd eu hateb.”