Mae dynes 24 oed yn yr ysbyty ar ôl cwympo oddi ar y pier ar draeth Aberafan.

Glaniodd hi ar greigiau’r traeth ar ôl cwympo 20 troedfedd, a chael ei hachub oddi yno gan Wylwyr y Glannau nos Sadwrn.

Cawson nhw eu galw am 11 o’r gloch, a chafodd y ddynes ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Treforys yn Abertawe.