Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth ar ôl i seiclwr farw mewn gwrthdrawiad yn ardal Banwen yng Nghwm Dulais nos Sadwrn.

Tarodd VW Transporter du a beic yn erbyn ei gilydd, a bu farw’r seiclwr yn y fan a’r lle.

Roedd y ffordd ynghau am bum awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad, ac maen nhw wedi diolch i’r gymuned am eu hamynedd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.